britishcouncil11h ago
New
New
Rheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Ymgysylltu â Chynulleidfaoedd a Chyfathrebu
mid
Other
1 views0 saves0 applied
Quick Summary
Overview
Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd.
Technical Tools
Other
Rydym yn cefnogi heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd. Ers 90 mlynedd rydym wedi bod yn helpu i siapio dyfodol mwy disglair drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant, iaith, a chreadigrwydd.
Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau, ac ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd.
Yn cysylltu. Yn ysbrydoli.
Teitl y Rôl:
Rheolwr Marchnata ar gyfer rhaglen Erasmus+ - Ymgysylltu â Chynulleidfaoedd a Chyfathrebu
Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai’r British Council fydd yn gweithredu fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer rhaglen Erasmus+.
Ym mis Rhagfyr, daeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i gytundeb gwleidyddol y byddai’r DU yn ail ymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027. Mae'r cytundeb hwnnw bellach wedi'i ffurfioli’n gyfreithiol dan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE a’r DU.
Mae gan y British Council ymrwymiad ers tro byd i gefnogi cyfnewid rhyngwladol. Bu’n un o bartneriaid arweiniol Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ yn y DU rhwng 2014 a 2020. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwnaeth Erasmus+ gyfraniad arwyddocaol i gysylltiadau diwylliannol y DU, gan ariannu 8,091 o brosiectau, gyda 583,757 o drigolion y DU yn cymryd rhan, a chan ddyfarnu tua €1.1 biliwn i sefydliadau yn y DU.
Band Cyflog: Gradd 7
Cyflog: £30,839 gros y flwyddyn + £3,300 y flwyddyn - Lwfans Ardal Llundain (i weithwyr yn ardal Llundain yn unig)
Hyd y cytundeb: Cytundeb Cyfnod Penodol o 2 Flynedd, gyda phosibilrwydd o estyniad
Lleoliad: Caerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin
Gofynion Hawl i Weithio: Hawl gyfredol i weithio yn y DU. Nid yw’r British Council yn gallu cefnogi ceisiadau am fisas gwaith.
Dyddiad Cau i geisiadau: 24 Awst am 22:59 (amser y DU)
Rydym yn gweithredu ar y sail bod unrhyw gynnig swydd yn amodol ar gadarnhad gan y cleient fod cyllid ar gael ganddynt.
Pwrpas y Rôl:
Bydd deiliad y rôl yn llywio ein dealltwriaeth o gynulleidfaoedd targed, gan gynnwys y cyfryngau, ac yn arwain ar ffyrdd o ymgysylltu â nhw. Byddant yn sicrhau bod ein gweithgareddau marchnata wedi'u seilio ar anghenion cynulleidfaoedd, eu hymddygiaid, a chyfleoedd perthnasol. Byddant yn gweithio'n agos gydag arweinwyr sectorau busnes a rhanddeiliaid allweddol i drosi blaenoriaethau busnes yn ddulliau marchnata, cyfathrebu ac ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa, gan sicrhau bod gweithgarwch marchnata yn cydfynd ag amcanion y rhaglen a theithiau’r cyfranogwyr. Byddant yn meithrin a chynnal cysylltiadau â rhanddeiliaid a sefydliadau amlhau, gan gyfrannu cynnwys a gwybodaeth sy’n cael ei arwain gan anghenion y gynulleidfa, a chefnogi’r gwaith o gyflawni digwyddiadau a hybu gweithgareddau ymgysylltu drwy gydol cylchred y rhaglen.
Prif Gyfrifoldebau:
* Datblygu pecynnau cymorth o adnoddau cynnwys ac asedau ar gyfer partneriaid a rhanddeiliaid, a sicrhau cysondeb negeseuo a rhannu gwybodaeth ar gyfryngau cyfathrebu partneriaid.
* Rheoli dosbarthiad pecynnau cymorth ac asedau; casglu adborth a gwybodaeth i lywio’r gwaith o gynhyrchu pecynnau cymorth yn y dyfodol.
* Gweithio'n agos gydag arweinwyr sectorau busnes a rhanddeiliaid i ddeall blaenoriaethau, cyfleoedd, a heriau’r sector a'r gynulleidfa, gan drosi'r rhain yn gynlluniau marchnata, cyfathrebu ac ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa.
* Cefnogi'r uwch reolwr i ddrafftio datganiadau i'r wasg, nodi straeon posibl ar gyfer y cyfryngau, ymateb i ymholiadau, a gweithio i gefnogi cysylltiadau cyhoeddus rhagweithiol.
* Datblygu cynnwys (gan gynnwys ysgrifennu copi) ar gyfer amrywiaeth o sianeli a fformatau gan gynnwys: datganiadau i'r wasg; nodiadau briffio; blogiau; canllawiau; canllawiau 'sut i'; gwybodaeth i helpu chwalu mythau; a chyfweliadau.
* Glynu wrth ganllawiau a pholisi ar ddefnyddio asiantaethau a thrydydd partïon mewn ymgyrchoedd marchnata a gweithgareddau cyfathrebu.
* Darparu briffiau clir a rheoli ansawdd allbynnau a chynhyrchion.
* Rheoli cysylltiadau dydd i ddydd gyda’r asiantaeth fonitro cyfryngau.
* Gweithio ar y cyd ar draws swyddogaeth farchnata Erasmus+, gan gyfrannu at amcanion cyffredin a chefnogi’r ddarpariaeth ar draws ymgyrchoedd, digwyddiadau a gweithgareddau marchnata blaenoriaeth yn ôl y gofyn i fodloni anghenion y rhaglen a gofynion sefydliadol.
* Cydweithio a meithrin cysylltiadau â thîm Cyfathrebu Corfforaethol y British Council.
* Hyrwyddo a hybu arferion gorau marchnata drwy’r Gymuned Ymarfer Marchnata fyd-eang a'r rhwydwaith rhyngwladol o weithwyr marchnata proffesiynol.
* Nodi ac argymell cyfleoedd gwelliant parhaus mewn modd rhagweithiol drwy feithrin gwybodaeth am raglen a blaenoriaethau Erasmus+, defnyddio mewnwelediad a data perfformiad, a sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf yn eich maes marchnata perthnasol.
* Cyfrannu at y gwaith o ddadansoddi cynulleidfaoedd presennol a darpar gynulleidfaoedd i gryfhau’r gwaith o lywio'r strategaeth farchnata a'r portffolio byd-eang ehangach.
Gwybodaeth a Phrofiad Penodol i’r Rôl:
Hanfodol
* Profiad o gymhwyso dealltwriaeth o gynulleidfaoedd i weithgareddau marchnata neu gyfathrebu
* Profiad o gysylltiadau cyhoeddus
* Profiad o ddarparu gweithgareddau marchnata, cyfathrebu, neu ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar y gynulleidfa
* Profiad o weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid
* Profiad o baratoi a chyflawni cynlluniau marchnata i gefnogi rhaglenni / darpariaethau
* Profiad o ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar draws amrywiaeth o wahanol sianeli
Dymunol
* Profiad yn y sectorau diwylliant, ieuenctid, chwaraeon, hyfforddiant, addysg neu elusennol
* Profiad mewn sefydliad rhyngwladol neu fyd-eang
* Profiad o gomisiynu cynnwys
* Profiad o gynllunio a chyflawni digwyddiadau neu weithgareddau estyn allan (ar-lein ac all-lein)
* Profiad o greu syniadau ar gyfer ymgyrchoedd marchnata digidol aml-sianel a’u rhoi ar waith – gan gynnwys gweithgareddau taledig
* Profiad o werthuso ymgyrchoedd yn effeithiol
* Profiad o fonitro cyfryngau
* Profiad o gyfryngau cymdeithasol organig
* Profiad o weithio gydag asiantaethau creadigol neu ddylunwyr
* Cymhwyster ôl-raddedig neu radd meistr mewn busnes neu farchnata
Gofynion Penodol
* Gradd mewn marchnata, cyfathrebu neu bwnc perthnasol, neu lefel gyfatebol o brofiad y gellir ei dangos
Mae’r British Council yn cefnogi dulliau newydd o weithio (fel gweithio hybrid), yn amodol ar gymeradwyaeth lawn gan y rheolwyr llinell ac ar ein gallu i ddarparu lefel briodol o wasanaeth. Efallai na fydd hyn yn briodol ar gyfer pob rôl, ond gellir trafod y posibiliadau mewn cyfweliad
Teyrnas Unedig gysylltiedig a dibynadwy mewn byd sy'n fwy cysylltiedig a dibynadwy.
Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned, gan ein bod yn credu fod gweithlu amrywiol yn rhoi mwy o ddyfnder i'n gwaith. Mae'r Cyngor Prydeinig yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu i herio agweddau, cynyddu dealltwriaeth o anabledd, a sicrhau bod staff yn cael eu dewis o'r gronfa dalent ehangaf bosibl. Rydym yn gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion sylfaenol y rôl. Rydym yn hapus i drafod unrhyw ofynion neu addasiadau penodol sydd eu hangen i'ch galluogi i gymryd rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau.
Datganiad Diogelu
Mae’r British Council wedi ymrwymo i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion rydym yn gweithio gyda nhw. Rydym yn credu fod pob plentyn ac oedolyn ym mhob rhan o'r byd yn haeddu byw mewn amgylchedd diogel, a bod hawl ganddynt i gael eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o niwed, camdriniaeth neu gamfanteisio, fel y nodir yn Erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) 1989.
Bydd penodiadau i swyddi lle mae cysylltiad uniongyrchol â grwpiau agored i niwed yn amodol ar wiriadau trylwyr yn unol â gofynion cyfreithiol ac â pholisiau Diogelu Oedolion a Phlant y British Council.
Os cewch unrhyw anawsterau wrth gyflwyno'ch cais, anfonwch e-bost atom yma: askhr@britishcouncil.org
Location & Eligibility
Where is the job
—
Location terms not specified
Listing Details
- Posted
- August 10, 2026
- First seen
- August 10, 2026
- Last seen
- August 10, 2026
Posting Health
- Days active
- 0
- Repost count
- 0
- Trust Level
- 49%
- Scored at
- August 10, 2026
Signal breakdown
freshnesssource trustcontent trustemployer trust
External application · ~5 min on britishcouncil's site
Please let britishcouncil know you found this job on Jobera.
3 other jobs at britishcouncil
View all →Explore open roles at britishcouncil.
Newsletter
Stay ahead of the market
Get the latest job openings, salary trends, and hiring insights delivered to your inbox every week.
A
B
C
D
No spam. Unsubscribe at any time.